Mae Sianti yn arbenigo mewn nwyddau llechi Cymreig sy'n cael eu trin yn ein gweithdy ar safle'r siop yn Aberaeron. Cynhyrchir ein holl nwyddau llechi o ddeunyddiau crai o Gymru. Gallwn gynhyrchu darnau comisiwn bach a mawr, a dosbarthu i unhryw ran o'r byd.
Mae'r siop yn cefnogi crefftwyr ac artistiaid drwy roi lle iddyn nhw werthu eu nwyddau. Mae Sianti hefyd yn le perffaith i ddod i chwilio am anrheg ar gyfer unrhyw achlysur, boed hwnnw'n gerdyn, dilledyn, crochenwaith, CD, DVD, darlun neu waith metel.
Os hoffech wybod mwy am ein cynnyrch defnyddiwch y ffurflen gysylltu, neu ffoniwch ni ar 01545 571510.
To browse this site in English please use the language selector in the top left menu.

